Caniad Solomon 6:9
Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.
10Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?
Cross References
Numbers 23:9Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele, bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd.
Deuteronomy 33:29Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd, tarian dy gynnorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a’th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel-leoedd hwynt.
Psalms 126:2Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
Song of Solomon 2:14Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a’th olwg yn hardd.
Galatians 4:26Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hen yw ein mam ni oll.
2 Thessalonians 1:10Pan ddêl efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.