The Bible Software
Caniad Solomon · Beibl (1620)

Caniad Solomon 6

1I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwyl¬yd? fel y ceisiom ef gyda thi.,

2Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili.

3Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.

4Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.

5Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a’m gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.

6Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.

7Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.

8Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.

9Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.

10Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?

11Euthum i waered i’r ardd gnau, i edrych am frwythydd y dyffryn, i weled, a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.

12Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.

13Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.

← Caniad Solomon 5Read In The App, Free →Caniad Solomon 7 →

Study Caniad Solomon 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678