The Bible Software
Llythyr Paul at Titus · Beibl (1620)

Llythyr Paul at Titus 2

1Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus:

2Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd:

3Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:

4Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwy^r, i garu eu plant,

5Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwy^r priod, fel na chabler gair Duw.

6Y gwy^r ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:

7Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredinaeth, gweddeidd-dra, purdeb,

8Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn wrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi.

9Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth, nid yn gwrthddywedyd;

10Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.

11Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn;

12Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;

13Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist;

14Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.

15Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

← Llythyr Paul at Titus 1Read In The App, Free →Llythyr Paul at Titus 3 →

Study Llythyr Paul at Titus 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123