The Bible Software
Llythyr Paul at Titus · Beibl (1620)

Llythyr Paul at Titus 1

1Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb;

2I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd;

3Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;

4At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni.

5Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti:

6Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn w^r un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd:

7Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw, nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa;

8Eithr yn lletygar, yn cam daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus;

9Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd.

10Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer-siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad:

11Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw.

12Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddiog.

13Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,

14Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.

15Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di-ffydd, nid pur dim, eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy.

16Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.

← Ail Llythyr Paul at Timotheus 4Read In The App, Free →Llythyr Paul at Titus 2 →

Study Llythyr Paul at Titus 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123