Ail Lyfr y Brenhinoedd 13:2
Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 13
Cross References
Deuteronomy 32:1Duw yn ei anfon ef i fynydd Nebo, i weled y wlad, ac i farw. Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.
2 Kings 22:1MAB wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath. º
2 Kings 23:16A Joseia a edrychodd, ac a ganfit feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau, ac a’u llosgodd ar yr allor, ac a’i halogodd hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD-yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn. º
2 Chronicles 34:4Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy.ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.
Isaiah 1:2Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.
Isaiah 44:26Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau: º