2 Chronicles 34:4
Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy.ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem.
Cross References
Exodus 23:24Nac ymgrymma i’w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ol eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr-ddinystria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.
Leviticus 26:30Eich uchelfeydd hefyd a ddinystriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.
Deuteronomy 7:25Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymmeryd i ti; rhag dy faglu âg ef: oblegid ffieidd-dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw.
1 Kings 13:2Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. º
2 Kings 23:4A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr archoffeiriad, ‘ae i’r offeiriaid o’r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allatt o deml yr ARGLWYDD yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl ru’r nefoedd: ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron; ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel. º
2 Kings 23:11Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i’r haul, wrth. ddyfodfa tŷ yr ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd, yr hwnoedd yn y pentref, ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân. º