The Bible Software
Ail Lyfr y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Brenhinoedd 13

1AC wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, * trwy air yr ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogl-darthu. º

2Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. º

3Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr ARGLWYDD; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir. º

4A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. º

5Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr ‘ argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr ARGLWYDD. º

6A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, ger¬bron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr AR¬GLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt. º

7A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti. º

8A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon: º

9Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi <rwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddyehwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost. º

10Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd-ddi i Bethel. º

11Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin. º

12A’u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw, yr hwn a ddaethai o Jwda. º

13Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farctbogodd arno. º

14Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi. º

15Yna efe a ddywedodd wrtho. Tyred adref gyda mi, a bwyta fara. º

16Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddy¬chwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytaf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda da yn y fan hon. º

17Canys dywedwyd wrthyftrwy ymadrodd yr ARGLWYDD, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd-ddi. º

18Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a. lefarodd wrthyf trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho. º

19Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dy ef, ac a yfodd ddwfr. º

20H A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd: º

21Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr ARGLWYDD, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti, º

22Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid & dy gelain di i feddrod dy dadau. º

23Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodA iddo yr asyn, sef r’r proffwyd a barasai efe iddo ddy¬chwelyd. º

24Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a’i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain. º

25Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi. º

26A phan glybu y proffwyd, yr hwn a barasai iddo ef ddychwelyd o’r ffordd, efe a ddywedodd, Gwr Duw yw efe, yr hwn a anufuddhaodd air yr ARGLWYDD: am hynny yr ARGLWYDD a’i rhoddodd ef i’r llew, yr hwn a’i drylliodd ef, ac a’i lladdodd ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef. º

27Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a’i cyfrwyasant. º

28Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r asyn a’r llew yn sefyll wrth y gelain: ac ni fwytasai y llew y gelain, ac ni ddrylliasai efe yr asyn. º

29A’r proffwyd a gymerth gelain gw’r Duw, ac a’i gosododd hi ar yr asyn, ac a’i dug yn ei hoi. A’r hen broffwyd a ddaeth i’r ddinas, i alaru, ac i’w gladdu ef. º

30Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei feddrod ei hun; a hwy a alarasant amdano ef, gan ddywedyd, O fy mrawd! º

31Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pan fyddwyf farw, cleddwch finnau hefyd yn y bedd y claddwyd gŵr Duw ynddo; gosodwch fy esgyrn i wrth ei esgyrn ef. º

32Canys diamau y bydd yr hyn a lefodd efe trwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai yr uchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria. º

33Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. º

34A’r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i’w ddiwreiddio hefyd, ac i’w ddileu oddi ar wyneb y ddaear.

← Ail Lyfr y Brenhinoedd 12Read In The App, Free →Ail Lyfr y Brenhinoedd 14 →

Study Ail Lyfr y Brenhinoedd 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122