2 Chronicles 15:14
A hwy a dyngasant i’r ARGLWYDD â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 24:3¶ A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac attebodd yr holl bobl yn un-air, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.
Joshua 24:24A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandâwn.
Nehemiah 10:29Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith DDUW, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas DUW: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr ARGLWYDD ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau: