Llyfr Exodus 24:3
¶ A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac attebodd yr holl bobl yn un-air, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fynu gyd âg ef.
Cross References
Exodus 19:8A’r holl bobl a gyd-attebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.
Exodus 24:7Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac a’i darllenodd lle y clywai y bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandâwn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.
Deuteronomy 4:5Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchymynodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur o honoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu.
Deuteronomy 5:1Moses, ar ddeisyfiad y bobl, yn derbyn y gyfraith gan Dduw. A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddyw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.
Deuteronomy 5:31Ond saf di yma gyd â myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchymynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnant hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchennogi.
Deuteronomy 11:1Rhoddi y fendith a’r felldith o’u blaen hwynt. Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, a’i orchymynion, byth.