2 Chronicles 21:19
A bu, ar ôl talm o ddyddiau, ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd, ei ymysgar¬oedd ef a aeth allan gan ei glefyd: felly y bu efe farw o glefydau drwg. A’i bobl ni wnaethant iddo gynnau, megis cynnau ei dadau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Ac wedi hyn oll yr ARGLWYDD a’i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele.
Cross References
2 Chronicles 16:14A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau. mawr iawn.
Jeremiah 34:5Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr ARGLWYDD. º