2 Chronicles 21:20
Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhin¬oedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 24:25A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gyd-fwriadodd i’w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a’i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.
2 Chronicles 28:27Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn y ddinas ya Jerwsalem, ond ni ddygasant hwy efi feddrod brenhinoedd Israel. A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Proverbs 10:7Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.
Jeremiah 22:28Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant? º