The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 21

1A Jehosoffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. A Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

2Ac iddo ef yr oedd brodyr, meibion Jehosaffat; Asareia, a Jehiel, a Sechareia, ac Asareia, a Michael, a Seffatia: y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel.

3A’u tad a roddodd iddynt roddion lawer, o arian, ac aur, a gwerthfawr bethau, gyda dinasoedd caerog yn Jwda: ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram, canys efe oedd y cyntaf-anedig.

4A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr a’r cleddyf, a rhai hefyd o dywysogion Israel.

5Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrn¬asu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

6Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethai tŷ Ahab; canys merch Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

7Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha tŷ Dafydd, er mwyn y cyfamod a amodasai efe a Dafydd, fel y dywedasai, y rhoddai efe iddo oleuni ac i’w feibion byth.

8Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hun.

9A Jehoram a aeth allan, a’i dywys¬ogion, a’i holl gerbydau gydag ef: ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid, y rhai oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau.

10Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda tryd y dydd hwn: a gwrthry¬felodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag AR¬GLWYDD DDUW ei dadau.

11Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda, ac a wnaeth i drigolion Jerwsalem buteinio, ac a gymhellodd Jwda i hynny.

12A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad, nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda;

13Eithr rhodio ohonot yn ffordd brenhinoedd Israel, a gwneuthur ohonot i Jwda ac i drigolion Jerwsalem buteinio, fel y puteiniodd tŷ Abab, a lladd ohonot dy frodyr hefyd o dŷ dy dad, y rhai oedd well na thydi:

14Wele, yr ARGLWYDD a dery â phla mawr dy bobl di, a’th blant, a’th wragedd, a’th holl olud.

15A thi a gei glefyd mawr, clefyd o’th ymysgaroedd, nes myned o’th goluddion allan gan y clefyd, o ddydd i ddydd.

16Felly yr ARGLWYDD a gyffrodd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid, a’r Arabiaid, y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid:

17A hwy a ddaethant i fyny i Jwda, ac a’i drylliasant hi, ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ’r brenin, a’i feibion hefyd a’i wragedd; fel na adawyd mab iddo, ond Jehoahas, yr ieuangaf o’i feibion.

18Ac wedi hyn oll yr ARGLWYDD a’i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele.

19A bu, ar ôl talm o ddyddiau, ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd, ei ymysgar¬oedd ef a aeth allan gan ei glefyd: felly y bu efe farw o glefydau drwg. A’i bobl ni wnaethant iddo gynnau, megis cynnau ei dadau.

20Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhin¬oedd.

← 2 Chronicles 20Read In The App, Free →2 Chronicles 22 →

Study 2 Chronicles 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536