The Bible Software
bible.software › 2 Chronicles › 2 Chronicles 23 › 2 Chronicles 23:17

2 Chronicles 23:17

Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a’i distrywiasant ef, a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor.

Beibl (1620)

In The King James Version

Then all the people went to the house of Baal, and brake it down, and brake his altars and his images in pieces, and slew Mattan the priest of Baal before the altars.

In Context

16A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r AR¬GLWYDD.

18A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr ARGLWYDD, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i offrymu poethoffrymau yr ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd.

Read all of 2 Chronicles 23

Cross References

Deuteronomy 12:3Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â than, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinystriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw.

1 Kings 18:40Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno. º

2 Kings 11:18A holl bobl y wlad a aethant i d Baal, ac a’i dinistriasant ef a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeir¬iad Baal o flaen yr allorau. A’r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr AR¬GLWYDD. º

2 Chronicles 34:4Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy.ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.

Isaiah 2:18A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)Polish Biblia Gdanska (1881)Statenvertaling (Nederlands)

Study 2 Chronicles 23:17

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)
← 2 Chronicles 23:162 Chronicles 232 Chronicles 23:18 →