2 Chronicles 28:9
Ac yno yr oedd proffwyd i’r AR¬GLWYDD, a’i enw Oded; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, oherwydd digofaint ARGLWYDD DDUW eich tadau yn erbyn Jwda, y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi, a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 4:10A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o’r ddaear.
Judges 3:8Am hynny dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel, ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan-risathaim wyth mlynedd.
1 Kings 20:22A’r proffwyd a nesaodd at frenin Israel, ac a ddywedodd wrtho, DOS, ymgryfha, gwybydd hefyd, ac edrych beth a wnelych; canys ymhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fyny i’th erbyn di. º
2 Kings 20:14Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon. º
2 Chronicles 19:1A Jehosoffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch.
2 Chronicles 28:5Am hynny yr ARGLWYDD ei DDUW a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a’i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a’u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a’i trawodd ef a lladdfa fawr.