2 Chronicles 34:2
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 17:11Yn ol rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ol y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu dehau nac i’r tu aswy.
Deuteronomy 28:14Ac heb gilio o honot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i’r tu dehau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ol duwiau dïeithr, i’w gwasanaethu hwynt.
Joshua 23:6Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tu a’r llaw ddehau na thu a’r llaw aswy;
1 Kings 15:5Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddydd¬iau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad. º
2 Chronicles 14:2Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW.
2 Chronicles 17:4Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.