Actau'r Apostolion 13:17
Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.
Read all of Actau'r Apostolion 13
Cross References
Genesis 17:7Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â’th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ol di.
Exodus 6:1a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o’i wlad.
Exodus 13:16A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhagdalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht.
Exodus 18:11Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.
Deuteronomy 4:34A brofodd un Duw ddyfod i gymmeryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aipht y’ngŵydd dy lygaid?
Deuteronomy 7:6Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.