Llyfr Daniel 6:24
Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a’u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a’u plant, a’u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 19:18Ac ymofyned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd;
Joshua 7:24A Josua a gymmerth Achan mab Zerah, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gyd âg ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
Esther 7:10Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.
Esther 9:25A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren. 9:
Proverbs 11:8Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef.
Daniel 3:22Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego.