Llyfr Daniel 6:25
Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 1:1Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd,
Esther 3:12Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.
Esther 8:9Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis, hwnnw yw y mis Sifan, ar y trydydd dydd ar hugain ohono, ac ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y penaduriaid hefyd, a thywysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o daleithiau, i bob talaith wrth ei hysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tafodiaith.
Daniel 4:1Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.
2 Peter 1:2Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni,