Llyfr Deuteronomium 1:7
Dychwelwch, a chychwynwch rhagoch, ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r dehau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Euphrates.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 1
Cross References
Genesis 15:18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
Numbers 10:12A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmmwl a arhosodd yn anialwch Paran.
Deuteronomy 1:19¶ A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy yr holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchymynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades-Barnea.
Deuteronomy 11:24Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: o’r anialwch, a Libanus, ac o’r afon, sef afon Euphrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi.
Joshua 9:1am yr hyn y condemniwyd hwy i gaethiwed tragywyddol. Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;
Joshua 11:16Felly Josua a ennillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddehau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;