Llyfr Deuteronomium 1:8
Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchennogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hol hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9¶ A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:
Read all of Llyfr Deuteronomium 1
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 15:16Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.
Genesis 17:7Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â’th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ol di.
Genesis 26:3Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.
Exodus 33:1Moses yn deisyfu cael gweled gogoniant Duw. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fynu oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fynu o wlad yr Aipht, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf hi.
Deuteronomy 2:29(Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a’r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i’r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.