Llyfr Deuteronomium 33:10
Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogl-darth ger dy fron, a llosg aberth ar dy allor.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 33
Cross References
Exodus 30:7Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llysieuog bob bore: pan daclo efe lampau, yr arogl-dartha efe.
Leviticus 1:13Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 9:12Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch.
Numbers 16:40Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesâo gwr dïeithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth ger bron yr Arglwydd; ac na byddo fel Corah a’i gynnulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
Deuteronomy 17:9A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.
Deuteronomy 27:14¶ A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gwr o Israel â llef uchel,