Llyfr Deuteronomium 6:2
Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchymynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estyner dy ddyddiau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 6
Cross References
Genesis 22:12Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.
Deuteronomy 4:10Sef y dydd y sefaist ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion.
Deuteronomy 5:16¶ Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estyner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
Deuteronomy 6:7A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu.
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
Deuteronomy 13:4Ar ol yr Arglwydd eich Duw y ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchymynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandêwch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch.