Llyfr Deuteronomium 6:3
¶ Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.
Read all of Llyfr Deuteronomium 6
Cross References
Genesis 12:2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
Genesis 15:5Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.
Genesis 26:4A mi a amlhâf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:
Exodus 1:7¶ A phlant Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth, a’r wlad a lanwyd ohonynt.
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Deuteronomy 4:6Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, y’ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddïau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.