The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 6

1Annog i ufuddhâu. A dyma y gorchymynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchymynodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu:

2Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchymynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estyner dy ddyddiau.

3¶ Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

4Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.

5Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth.

6A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon.

7A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu.

8A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhagdalau rhwng dy lygaid.

9Ysgrifena hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.

10Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,

11A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olew-wyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwytta, a’th ddigoni;

12Yna cadw arnat, rhag anghofio o honot yr Arglwydd, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

13Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef y tyngi.

14Na cherddwch ar ol duwiau dïeithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi:

15(Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di,) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.

16¶ Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massah.

17Gan gadw cedwch orchymynion yr Arglwydd eich Duw, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchymynodd efe i ti.

18A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus y’ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned o honot i mewn, a pherchennogi y wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di;

19Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.

20Pan ofyno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchymynodd yr Arglwydd ein Duw i chwi?

21Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaeth-weision i Pharaoh yn yr Aipht; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aipht â llaw gadarn.

22Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion, a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aipht, ar Pharaoh a’i holl dŷ, yn ein golwg ni;

23Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni.

24A’r Arglwydd a orchymynodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr Arglwydd ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn.

25A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchymynion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchymynodd efe i ni.

← Llyfr Deuteronomium 5Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 7 →

Study Llyfr Deuteronomium 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334