Llyfr Exodus 17:1
Moses yn adeiladu yr allor JEHOFAH-Nissi. A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ol gorchymyn yr Arglwydd, ac a wersyllasant yn Rephidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:22Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
Exodus 17:8¶ Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd âg Israel yn Rephidim.
Numbers 9:17A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel.
Numbers 20:2Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.
Numbers 33:14A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Rephidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed.