Llyfr Exodus 17:2
Am hynny y bobl a ymgynhennasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 5:21A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni.
Exodus 15:24A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?
Exodus 17:7Ac efe a alwodd enw y lle Massah, a Meribah; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio yr Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?
Numbers 14:2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn!
Numbers 20:2Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.
Deuteronomy 6:16¶ Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massah.