Llyfr Exodus 17
1Moses yn adeiladu yr allor JEHOFAH-Nissi. A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ol gorchymyn yr Arglwydd, ac a wersyllasant yn Rephidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed.
2Am hynny y bobl a ymgynhennasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd?
3A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fynu o’r Aipht, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched?
4A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig etto hwy a’m llabyddiant i.
5A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymmer gyd â thi o henuriaid Israel: cymmer hefyd dy wïalen yn dy law, yr hon y tarewaist yr afon â hi, a cherdda.
6Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed. A Moses a wnaeth felly y’ngolwg henuriaid Israel.
7Ac efe a alwodd enw y lle Massah, a Meribah; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio yr Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?
8¶ Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd âg Israel yn Rephidim.
9A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd âg Amalec: y fory mi a safaf ar ben y bryn, a gwïalen Duw yn fy llaw.
10Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd âg Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fynu i ben y bryn.
11A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.
12A dwylaw Moses oedd drymion; a hwy a gymmerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynhaliasant ei ddwylaw ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylaw ef sythion nes machludo yr haul.
13A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf.
14A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddilëu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.
15A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.
16Canys efe a ddywedodd, O herwydd tyngu o’r Arglwydd, y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.