Llyfr Exodus 20:4
Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
Cross References
Exodus 32:1ac yn gweddïo dros y bobl. Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.
Exodus 32:8Buan y ciliasant o’r ffordd a orchymynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasnt i fynu o wlad yr Aipht.
Exodus 34:17Na wna i ti dduwiau tawdd.
Leviticus 26:1Duw yn addaw cofio y rhai edifarhânt. Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Deuteronomy 4:16Rhag ymlygru o honoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwrryw neu fenyw,
Deuteronomy 4:25¶ Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir-drigo o honoch yn y wlad, ac ymlygru o honoch, a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef;