Llyfr Exodus 20:5
Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y dryd edd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
Cross References
Exodus 34:6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
Exodus 34:14Canys ni chei ymgrymmu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;
Leviticus 26:1Duw yn addaw cofio y rhai edifarhânt. Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Leviticus 26:39A’r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y toddant.
Numbers 14:33A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffaethwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosp eich putteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffaethwch.
Deuteronomy 4:24Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw eiddigus.