Llyfr Exodus 20:6
Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
Beibl (1620)
In The King James Version
And shewing mercy unto thousands of them that love me, and keep my commandments.
In Context
Cross References
Deuteronomy 4:37Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hol; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aipht:
Deuteronomy 7:9Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlawn, yn cadw cyfammod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion, hyd fil o genhedlaethau;
Daniel 9:4A gweddïais ar yr ARGLWYDD fy NUW, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd DDUW mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion;
John 14:21Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo.
Romans 11:28Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau.
1 John 5:3Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion.