Llyfr Exodus 23:18
Nac abertha waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd, ac nac arhôed brasder fy aberth dros nos hyd y bore.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrrywiaid ger bron yr Arglwydd dy Dduw.
19Dwg i dŷ yr Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaen-ffrwyth dy dir. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.
Cross References
Exodus 12:8A’r cig a fwyttânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyd â dail surion y bwyttânt ef.
Exodus 12:15Saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai; o herwydd pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.
Leviticus 2:11Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd-offrwm a offrymmoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.
Leviticus 7:15A chig ei hedd-aberth o ddïolch a fwyttêir y dydd yr offrymmir ef: na adawer dim o hono hyd y bore.