Llyfr Exodus 24:4
A Moses a ysgrifenodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor îs law y mynydd, a deuddeg colofn, yn ol deuddeg llwyth Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 28:22A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ Dduw; ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a’i degymmaf i ti.
Exodus 17:15A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.
Exodus 20:25Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gottech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi.
Exodus 34:27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena i ti y geiriau hyn: oblegid yn ol y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi, ac âg Israel.
Numbers 17:2Llefara wrth feibion Israel, a chymmer gan bob un o honynt wïalen, yn ol tŷ eu tadau, sef gan bob un o’u pennaethiaid, yn ol tŷ eu tadau, deuddeg gwïalen; ysgrifena enw pob un ar ei wïalen.