Llyfr Exodus 25:22
A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau gerub y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchymynwyf wrthyt i feibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21A dod y drugareddfa i fynu ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.
Cross References
Genesis 18:33A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan âg Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.
Exodus 29:42Yn boeth-offrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.
Exodus 30:36Gan guro cur yn fân beth o hono, a dod o hono ef ger bron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi.
Exodus 31:18¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.
Leviticus 16:2A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cyssegr o fewn y wahanlen, ger bron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: o herwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmmwl.
Numbers 17:4A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi.