The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 25

1Y canhwyllbren a’i offer. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt i mi offrwm: gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm.

3A dyma yr offrwm a gymmerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,

4A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,

5A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

6Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r pêr-arogl-darth,

7Meini onix, a meini i’w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.

8A gwnant i mi gyssegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.

9Yn ol holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.

10¶ A gwnant arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

11A gwisg hi âg aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.

12Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.

13A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur.

14A gosod y trosolion trwy y modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.

15Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symmuder hwynt oddi wrthi.

16A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.

17A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.

18A gwna ddau gerub o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwrr y drugareddfa.

19Un cerub a wnei yn y naill ben, a’r cerub arall yn y pen arall: o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y cerubiaid.

20A bydded y cerubiaid yn lledu eu hesgyll i fynu, gan orchuddio y drugareddfa â’u hesgyll, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: tu a’r drugareddfa y bydd wynebau y cerubiaid.

21A dod y drugareddfa i fynu ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.

22A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau gerub y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchymynwyf wrthyt i feibion Israel.

23¶ A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

24A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

27Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd.

28A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

29A gwna ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i gaeadau, a’i phïolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

30A dod ar y bwrdd y bara dangos ger bron fy wyneb yn wastadol.

31¶ Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, a fyddant o’r un.

32A bydd chwe chaingc yn dyfod allan o’i ystlysau; tair caingc o’r canhwyllbren o un tu, a thair caingc o’r canhwyllbren o’r tu arall.

33Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gaingc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gaingc arall: felly ar y chwe chaingc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren.

34Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a’u cnapiau a’u blodau.

35A bydd cnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, yn ol y chwe chaingc a ddeuant o’r canhwyllbren.

36Eu cnapiau a’u ceingciau a fyddant o’r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.

37A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.

38A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth.

39O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl lestri hyn.

40Ond gwel wneuthur yn ol eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

← Llyfr Exodus 24Read In The App, Free →Llyfr Exodus 26 →

Study Llyfr Exodus 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940