The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 31

1Moses yn derbyn y ddwy lech. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Gwel, mi a elwais wrth ei enw ar Bezaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Judah;

3Ac a’i llenwais ef âg yspryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith,

4I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

5Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.

6Ac wele, mi a roddais gyd âg ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac y’nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchymynais wrthyt.

7Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell,

8A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth,

9Ac allor y poeth-offrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed,

10A gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt,

11Ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth peraidd i’r cyssegr; a wnant yn ol yr hyn oll a orchymynais wrthyt.

12¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,

13Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dïau y cedwch fy Sabbathau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenhedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio.

14Am hynny cedwch y Sabbath; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr-rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef, o herwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.

15Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Sabbath gorphwysdra sanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr-rodder ef i farwolaeth.

16Am hynny cadwed meibion Israel y Sabbath, gan gynnal Sabbath trwy eu cenhedlaethau, yn gyfammod tragywyddol.

17Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragywyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nefoedd a’r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorphwysodd efe.

18¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.

← Llyfr Exodus 30Read In The App, Free →Llyfr Exodus 32 →

Study Llyfr Exodus 31

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940