The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 41

1Y newyn yn dechreu. Yna ym mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharaoh freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.

2Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent.

3Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar làn yr afon.

4A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwyttasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharaoh.

5Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.

6Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hol hwynt.

7A’r tywysennau teneuon a lyngcasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharaoh; ac wele breuddwyd oedd.

8A’r bore y bu i’w yspryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharaoh.

9¶ Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharaoh, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddyw.

10Llidio a wnaethai Pharaoh wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ y distain, myfi a’r pen-pobydd.

11A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ol dehongliad ei freuddwyd.

12Ac yr oedd yno gyd â nyni fab ieuangc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ol ei freuddwyd y dehonglodd efe.

13A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe.

14¶ Pharaoh, gan hynny, a an fonodd ac a alwodd am Joseph: hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharaoh.

15A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli.

16A Joseph a attebodd Pharaoh, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a ettyb lwyddiant i Pharaoh.

17A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

18Ac wele yn esgyn o’r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd-dir y porent.

19Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg a hwynt yn holl dir yr Aipht.

20A’r gwartheg culion a drwg a fwyttasant y saith muwch tewion cyntaf:

21Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.

22Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg, yn cyfodi o’r un gorsen.

23Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hol hwynt.

24A’r tywysenau teneuon a lyngcasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.

25¶ A dywedodd Joseph wrth Pharaoh, Breuddwyd Pharaoh sydd un: yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharaoh.

26Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.

27Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hol hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyrein-wynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.

28Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharaoh: Yr hyn a wna Duw, efe a’i dangasodd i Pharaoh.

29Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aipht.

30Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aipht: a’r newyn a ddifetha y wlad.

31Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, o herwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.

32Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharaoh ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhâu y peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur.

33Yn awr, gan hynny, edryched Pharaoh am wr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aipht.

34Gwnaed Pharaoh hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymmered bummed ran cnwd gwlad yr Aipht dros saith mlynedd yr amldra.

35A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharaoh, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.

36A bydded yr ymborth y’nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant y’ngwlad yr Aipht, fel na ddifether y wlad gan y newyn.

37¶ A’r peth oedd dda y’ngolwg Pharaoh, ac y’ngolwg ei holl weision.

38A dywedodd Pharaoh wrth ei weision, A gaem ni wr fel hwn, yr hwn y mae yspryd Duw ynddo?

39Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.

40Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrn-gadair yn unig y byddaf fwy na thydi.

41Yna y dywedodd Pharaoh wrth Joseph, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aipht.

42A thynnodd Pharaoh ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseph, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,

43Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail cerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.

44Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Myfi yw Pharaoh, ac hebot ti ni chyfyd gwr ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aipht.

45A Pharaoh a alwodd enw Joseph, Saphnath-Paaneah; ac a roddes iddo Asnath, merch Potipherah offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseph allan dros wlad yr Aipht.

46¶ A Joseph ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharaoh brenhin yr Aipht: a Joseph a aeth allan o ŵydd Pharaoh, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aipht.

47A’r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.

48Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu y’ngwlad yr Aipht, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.

49A Joseph a gynhullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra llïosog, hyd oni pheidiodd â’i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.

50Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseph ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potipherah offeiriad On, iddo ef.

51A Joseph a alwodd enw ei gyntaf-anedig, Manasseh: Oblegid, eb efe Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.

52Ac efe a alwodd enw yr ail, Ephraim: Oblegid, eb efe, Duw a’m ffrwythlonodd i y’ngwlad fy ngorthrymder.

53¶ Darfu y saith mlynedd o amldra, y rhai a fu y’ngwlad yr Aipht.

54A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseph: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.

55A phan newynodd holl wlad yr Aipht, y bobl a waeddodd ar Pharaoh am fara: a Pharaoh a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, Ewch at Joseph; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

56Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseph a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i’r Aiphtiaid; oblegid y newyn oedd drwm y’ngwlad yr Aipht.

57A daeth yr holl wledydd i’r Aipht at Joseph i brynu; o herwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.

← Llyfr Genesis 40Read In The App, Free →Llyfr Genesis 42 →

Study Llyfr Genesis 41

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950