Llyfr Genesis 49:25
Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynnorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 17:1Enwaedu ar Abraham ac Ismael. A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
Genesis 28:13Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
Genesis 35:3A chyfodwn, ac esgynwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyd â myfi yn y ffordd a gerddais.
Genesis 43:23Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi attaf fi. Ac efe a ddug Simeon allan attynt hwy.
Deuteronomy 28:2A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw.
Deuteronomy 33:13¶ Ac am Joseph y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod;