Llyfr Josua 24:2
A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Terah tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dïeithr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 11:22Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.
Genesis 11:27¶ A dyma genhedlaethau Terah: Terah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.
Genesis 31:30Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladratteaist fy nuwiau i?
Genesis 31:53Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.
Deuteronomy 26:5A llefara dithau, a dywed ger bron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod am dano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynodd i’r Aipht, ac a ymdeithiodd yno âg ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.
1 Chronicles 1:27Abram, hwnnw yw Abraham.