Llyfr Eseia 31:3
Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw; a’u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr ARGLWYDD ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 32:8Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr ARGLWYDD ein Duw sydd gyda ni, i’n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.
Isaiah 9:17Am hynny nid ymlawenha yr AR¬GLWYDD yn eu gwŷr ieuainc bwy, ac with eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohorynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. º
Isaiah 20:6A’r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon, Wele, fel hyn y mae ein gobaith ni, lle y ffoesom am gymorth i’a, gwared rhag brenin Asyria: a pha fodd y dihangwn?
Isaiah 30:7Canys yn ddiles ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd. º
Isaiah 36:9A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion? º