The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 31

1GWAE y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn ami; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr AR¬GLWYDD. º

2Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw a chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd. º

3Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw; a’u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr ARGLWYDD ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant. º

4Canys fel hyn y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrthyf, Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn ARGLWYDD y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef. º

5Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn ARGLWYDD y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub. º

6Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho. º

7Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi. º

8A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid eiddo dyn gwael, a’i difa ef: ac efe a fry rhag y cleddyf, a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth. º

9Ac efe a â i’w graig rhag ofn; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr ARGLWYDD, yr hwn y mae ei dan yn Seion, a’i ffwrn yn Jerwsalem.

← Llyfr Eseia 30Read In The App, Free →Llyfr Eseia 32 →

Study Llyfr Eseia 31

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566