Llyfr Eseia 62:8
Tyngodd yr ARGLWYDD i’w ddeheu-law, ac i’w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:16Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: i gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer, canys eich gelynion a’i bwytty:
Deuteronomy 28:31Dy ŷch a leddir yn dy olwg, ac ni fwyttêi o hono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref attat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd.
Deuteronomy 32:40Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth.
Isaiah 1:7Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir a dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.
Isaiah 65:21A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth. º
Jeremiah 5:17A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dioda hi â’r cleddyf.