Llyfr Eseia 62
1ER mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi. º
2A’r cenhedloedd a welant dygyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr ARGLWYDD. º
3Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr ARGLWYDD, ac yn dalaith frenhmol yn llaw dy DDUW. º
4Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedit mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a’th dir a briodir. º
5Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac a llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy DDUW o’th blegid di. º
6Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr ARGLWYDD, na ddistewch, º
7Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhau, ac hyd oni osodo Jerw¬salem yn foliant ar y ddaear. º
8Tyngodd yr ARGLWYDD i’w ddeheu-law, ac i’w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano: º
9Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt, ac a foliannant yr ARGLWYDD; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoeddi fy sancteiddrwydd. º
10Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; di-g-aregwch hi: cyfodwch faner i’r bobloedd. º
11Wele, yr ARGLWYDD a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a’i waith iS’i flaen. º
12Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd, yn Waredigion yr ARGLWYDD: tithau a elwir, Yr hon a geisiwyd, Dinas nis gwrthodwyd.