Llyfr Eseia 63:7
Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 14:18Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhâu ni chyfiawnhâ efe yr euog; ymweled y mae âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
2 Chronicles 7:10Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei pobl.
Nehemiah 9:19Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.
Nehemiah 9:27Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr.
Nehemiah 9:35A hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.
Psalms 63:3Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.