Llyfr Jeremeia 50:26
Deuwch yn ei herbyn o’r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi, dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 5:26Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant.
Isaiah 14:23Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd ARGLWYDD y lluoedd. º
Isaiah 45:3Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel. º
Jeremiah 50:10A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr ARGLWYDD. º
Jeremiah 50:15Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr ARGLWYDD yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi. º
Jeremiah 50:41Wele, pobl a ddaw o’r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear. º