Llyfr Jeremeia 52:4
Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrn¬asiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. º
Cross References
Leviticus 26:25A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddïal fy nghyfammod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
2 Kings 25:1yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adeiladasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o’i hamgylch hi. º
Isaiah 42:24Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr ARGLWYDD, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith. º
Jeremiah 6:3Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le.
Jeremiah 32:24Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli. º
Jeremiah 52:7Yna y torrwyd y ddinas; a’r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos. º