Llyfr Jeremeia 52
1MAB un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. º
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim. º
3Oherwydd gan ddigofaint yr AR¬GLWYDD y bu, yn Jerwsalem ac yn Jwda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg, wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon. º
4Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrn¬asiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch. º
5Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. º
6Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o’r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad. º
7Yna y torrwyd y ddinas; a’r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos. º
8Ond llu y Caldeaid a ymBdiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, a’i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho. º
9Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribia yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef. º
10A brenin Babilon a laddodd feibioo Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla. º
11Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef a chadwyni: a brenin Babilon a’i harweiniodd ef i Babilon, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth. º
12Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebu¬chodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem; º
13Ac efe a losgodd d yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a pho’o tŷ mawr, a losgodd efe â thân. º
14A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch. º
15Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael, a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a’r gweddill o’r bobl. º
16Ond Nebusaradan pennaeth y mil¬wyr a adawodd rai o diodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr. º
17A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr AR¬GLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon. º
18A hwy a ddygasant ymaith y croch-anau, a’r rhawiau, a’r saltringau, a’r, cawgiau, a’r thuserau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt. º
19A’r ffiolau, a’r pedyll tân, a’r cawg¬iau, a’r crochanau, a’r canwyllbrennau, a’r thuserau, a’r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn anan, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith. º
20Y ddwy golofn, un mor, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion. y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn. º
21Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeu-ddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a’i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau,;a’ oedd.,g º
22A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwyd-waith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau. º
23A’r pomgranadau oeddynt, onid s pedwar, cant ar ystlys: yr holl bom-granadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant. º
24A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yy ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drwa. º
25Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystaf-. ellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennafy brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanot y ddinas. º
26A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon. º
27A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun. º
28Dyma y bobl a gaethgludodd, Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon. º
29Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion. º
30Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant. º
31Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad, a ddyr-chafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a’i dug ef allan o’r carchardy; º
32Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon. º
33Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes. º
34Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.