The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Ioan · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Ioan 11

1Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha.

2(A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.)

3Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.

4A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.

5A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus.

6Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.

7Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.

8Y disgyblion a ddywedant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?

9Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn:

10Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.

11Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny, efe a ddywedodd wrthynt, y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef.

12Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.

13Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd.

14Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus.

15Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef.

16Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.

17Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.

18A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi:

19A llawer o’r Iddewon a ddaethent at Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd.

20Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.

21Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwyd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.

22Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.

23Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn.

24Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf.

25Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw:

26A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn?

27Dywedodd hithau wrtho, ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd.

28Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.

29Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.

30(A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man efe y cyfarfuasai Martha ag ef.)

31Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddywedyd, y mae hi’n myned at y bedd, i wylo yno.

32Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.

33Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd;

34Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.

35Yr Iesu a wylodd.

36Am hynny dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef.

37Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?

38Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.

39Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.

40Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?

41Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.

42Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i.

43Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan.

44A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.

45Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.

46Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.

47Yna yr arch-offeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.

48Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw y Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd.

49A rhyw un o honynt, Caiaphas, yr hwn oedd arch-offeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim oll,

50Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.

51Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun: eithr, ac efe yn arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddai yr Iesu farw dros y genedl;

52Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.

53Yna o’r dydd hwnnw allan, y cydymgyngorasant fel y lladdent ef.

54Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysg yr Iuddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac a arhosodd yno gyd â’i ddisgyblion.

55A phasc yr Iuddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fynu i Jerwsalem o flaen y pasc, i’w glanhâu eu hunain.

56Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r wyl?

57A’r arch-offeiriaid a’r Phariseaid a roisant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef.

← Yr Efengyl yn ôl Ioan 10Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Ioan 12 →

Study Yr Efengyl yn ôl Ioan 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021