The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Ioan · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Ioan 15

1Myfi yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r llafurwr.

2Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith, a phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth.

3Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych

4Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, onid erys yn y winwydden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi.

5Myfi yw’r winwydden, chwithau yw’r canghennau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.

6Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir.

7Os arhoswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi.

8Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi.

9Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.

10Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.

11Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.

12Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.

13Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.

14Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.

15Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.

16Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

17Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd.

18Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi.

19Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi.

20Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

21Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i.

22Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.

23Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd.

24Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac am casasant i a’m Tad hefyd.

25Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos.

26Eithr pan ddel y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn, sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi.

27A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi.

← Yr Efengyl yn ôl Ioan 14Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Ioan 16 →

Study Yr Efengyl yn ôl Ioan 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021