Llyfr Josua 11:21
¶ A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Judah, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 13:22Ac a aethant i fynu i’r dehau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aipht.)
Deuteronomy 1:28I ba le yr awn i fynu? ein brodyr a’n digalonnasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hŵy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
Deuteronomy 9:2Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd am danynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac!
Joshua 14:12Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.
Joshua 15:14A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.
Judges 1:10A Judah a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.