Llyfr Numeri 13:22
Ac a aethant i fynu i’r dehau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aipht.)
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21¶ A hwy a aethant i fynu, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.
Cross References
Genesis 13:18Ac Abram a symmudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd y’ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.
Numbers 13:17¶ A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tu a’r dehau, a dringwch i’r mynydd.
Joshua 11:21¶ A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Judah, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.
Joshua 15:13¶ Ac i Caleb mab Jephunneh y rhoddodd efe ran ym mysg meibion Judah, yn ol gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer-Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.
Joshua 21:13¶ Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meusydd pentrefol, yn ddinas nodded i’r llofrudd; a Libnah a’i meusydd pentrefol,
2 Samuel 2:1Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd’â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.